Astudio yn Aberystwyth

Tref arfordirol fywiog a phrysur ac ynddi nifer fawr o fyfyrwyr yw Aberystwyth; mae wedi ei lleoli mewn ardal wledig hardd ac yn edrych allan dros Fae Ceredigion. Mae’n debygol iawn y bydd cerdded ar lan y môr yn dod yn rhan gyson o’ch bywyd yma. Mae Mynyddoedd Cambria a Pharc Cenedlaethol Eryri o fewn cyrraedd hwylus, sy’n golygu bod modd i chi fwynhau gweithgareddau awyr agored mor amrywiol â dringo creigiau a rhwyfo caiac yn y môr.

Ceir dewis helaeth o dafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn y dref, a chalendr diwylliannol prysur sy’n cynnwys cerddoriaeth fyw, comedi, theatr, sinema a dawns. Mae Aberystwyth yn ddwfn yn y Fro Gymraeg a cheir yma sin gelfyddydol Gymraeg fywiog; dyma’r lle delfrydol i ddysgu neu loywi eich sgiliau yn yr iaith Geltaidd a siaredir fwyaf yn y byd! Mae i’r dref gysylltiadau da o ran ffyrdd a chludiant cyhoeddus, ac mae trenau’n rhedeg yn gyson o Aberystwyth i Loegr ac i arfordir gogledd Cymru. Mae Aberystwyth yn cyfuno pleserau tawel cefn gwlad â chyffro cosmopolitaidd tref brifysgol – ac mae staff a myfyrwyr y Ganolfan yn rhan anhepgor o’r cymysgedd.