Y Ganolfan

Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (y Ganolfan Geltaidd) gan Brifysgol Cymru yn 1985, i fod yn ganolfan ymchwil a fyddai’n canolbwyntio ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill.

Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol lle cedwir casgliad dihafal o lawysgrifau ac archifau Cymreig. Mae’r Ganolfan hefyd yn gartref i Uned Geiriadur Prifysgol Cymru, geiriadur hanesyddol safonol yr iaith Gymraeg.

Rydym yn cynnig graddau ymchwil ôl-radd (MPhil a PhD) ym meysydd Astudiaethau Cymreig ac Astudiaethau Celtaidd, drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Caiff ein myfyrwyr eu cyfarwyddo gan ysgolheigion blaenllaw, a gweithio ochr yn ochr â chymrodorion ôl-ddoethurol mewn amgylchedd cefnogol gydag adnoddau ymchwil rhagorol. Dyfernir ein graddau gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.