Beth rydym yn ei wneud

Mae ein myfyrwyr ôl-radd yn rhan o gymuned ymchwil ddeinamig ac ysbrydoledig, ac fel canolfan amlieithog ac amlddisgyblaethol rydym yn cwmpasu ystod eang o bynciau ac agweddau ar ymchwil. Derbynia ein myfyrwyr gyfarwyddyd a chefnogaeth bersonol ar bob cam yn eu datblygiad proffesiynol, ac mae iddynt ran ganolog yn rhaglen flynyddol gyffrous y Ganolfan o seminarau ymchwil a chynadleddau rhyngwladol. Gall myfyrwyr ddewis astudio yn y Ganolfan neu o bell – rydym wedi ymrwymo i ymarfer da o ran cyfarwyddo ymchwil felly gallwch fod yn sicr eich bod yn derbyn yr arweiniad gorau posibl y naill ffordd neu’r llall.

Am beth rydym yn chwilio? Mae agweddau newydd a phersbectif ffres yn sail i bob gwaith ôl-radd, ac mae rhai o fyfyrwyr diweddar y Ganolfan wedi bod yn ymchwilio i bynciau mor amrywiol ag adfywiadau Celtaidd, llongddrylliadau, cyfieithu, hanes gwydr lliw, hanes enwau lleoedd, a llenyddiaeth daith yng Nghymru a’r Alban.

Mae ein myfyrwyr wedi mynd rhagddynt i yrfaoedd yn y byd academaidd a galwedigaethau cysylltiedig, megis cadwraeth, curaduriaeth, a mapio masnachol.