Ffioedd a sut i wneud cais

Disgwylir i ymgeiswyr i astudio ar gyfer MPhil/PhD fod â gradd dosbarth cyntaf neu 2:1 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn disgyblaeth berthnasol.

Y cam cyntaf wrth ymgeisio i astudio yn y Ganolfan yw dod o hyd i ddarpar gyfarwyddwr. Bydd y cyfarwyddwr yn eich cynghori ac yn cefnogi eich astudiaeth gydol eich cyfnod yn y Ganolfan, gan sicrhau bod eich traethawd MPhil/PhD yn datblygu i’w lawn botensial a’i fod yn cyrraedd y safonau angenrheidiol. Edrychwch ar dudalennau ein staff er mwyn dod o hyd i un sy’n arbenigo yn eich maes, a chofiwch fod croeso i chi gysylltu â nhw’n uniongyrchol drwy ebost i drafod testunau posibl ar gyfer eich ymchwil – byddant yn barod iawn i helpu.

Y cam nesaf wedyn yw llunio cynnig ymchwil – trosolwg rhwng 500 a 1000 o eiriau yn cynnwys y cwestiynau a’r agweddau y byddech yn dymuno eu trin yn eich traethawd. I drafod ymhellach sut y gallwn eich cynorthwyo i ddatblygu eich syniadau, ac am gyngor cychwynnol ynglŷn â’r drefn dderbyn, cysylltwch â’r Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-radd.

£4195 y flwyddyn yw’r ffi flynyddol i gofrestru ar gyfer MPhil/PhD amser llawn ar hyn o bryd (2018/2019), a £2097.50 i astudio’n rhan-amser.